Asiantaeth ddigidol yng Nghaerdydd yw Pobl Tech. Ry'n ni'n dylunio ac yn datblygu gwefannau ymatebol, gwe-apiau ac apiau
DechrauAsiantaeth ddigidol yng Nghaerdydd yw Pobl Tech sy'n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu gwefannau pwrpasol. P'un a oes angen safle dwy dudalen, siop e-fasnach neu system e-fasnach arnoch chi, ni yw'r asiantaeth i chi.
Ein gwasanaethauRy'n ni'n datblygu gwefannau neu apiau gwe wedi'u teilwra ar gyfer eich anghenion. Mae'r cyfan yn hygyrch ac yn dilyn canllawiau GDPR.
Mae dylunio wrth wraidd yr hyn a wnawn, gan greu atebion deallus a gafaelgar sydd yn rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf.
Gallwn helpu gyda'ch strategaethau marchnata digidol, gan gynnwys OPCh a strategaethau cynnwys neu hysbysebu.
Ein nod yw deall eich sefydliad yn llawn a'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni.
Rydym yn credu mewn gweithio gyda'r dylunio yn awain, gan gynnig symlrwydd a hygyrchedd wrth galon y gwaith.
Gellir adeiladu ein holl atebion yn bwrpasol, gan roi'r rhyddid i chi ddatblygu nodweddion arloesol ac effeithiol.
Rydym yn cynnig cefnogaeth a monitro parhaus ar ôl i brosiect fynd yn fyw.
Gellwn adeiladu ein holl atebion yn gwbl amlieithog, a gallant fod yn unol â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg.
Rydym yn dylunio ein datrysiadau gyda hygyrchedd wrth graidd y gwaith, gan sicrhau eu bod yn gweithio yn effeithiol i bob defnyddiwr.
Mae ein datrysiadau'n gweithio'n effeithiol ar draws ystod o ddyfeisiau, o gyfrifiaduron i ffonau symudol.
Gyda'n holl brosiectau, rydym yn cadw at yr egwyddorion GDPR.
14 Neptune Court
Caerdydd CF24 5PJ
hello@pobl.tech
© Pobl Tech