fbpx

Estyn – Trawsnewid Digidol

Adroddiad blynyddol digidol ac adnoddau ar gyfer arolygiaeth gofal Cymru
 Adroddiad blynyddol digidol Estyn

Estyn yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Eu nod yw gwella ansawdd addysg, hyfforddiant a chanlyniadau i bob dysgwr ledled Cymru. Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth ag Estyn i gyflwyno eu hadroddiad blynyddol, eu canfyddiadau cryno ac adnoddau dysgwyr.

 Gwefan adroddiad blynyddol digidol Estyn ar ffôn symudol
 Gwefan adroddiad blynyddol digidol Estyn ar dabled
 Gwefan adroddiad blynyddol digidol Estyn ar ffôn symudol
 Gwefan adroddiad blynyddol digidol Estyn ar gyfrifiadur
 Gwefan adroddiad blynyddol digidol Estyn ar ffôn symudol

Ein nod ar gyfer y prosiect oedd cynyddu ymgysylltiad ag athrawon, rhanddeiliaid, dysgwyr a disgyblion. Yn draddodiadol, roedd Estyn yn cynhyrchu PDF neu adroddiad blynyddol printiedig nad oedd yn cael y lefelau darllenwyr yr oedden nhw eu heisiau; cynigiom wefan adroddiad blynyddol digidol i gyd-fynd â'r fersiwn PDF. Gwnaeth y fersiwn digidol hwn yr adroddiad yn llawer mwy deniadol a haws i’w ddarllen, ac roedd yn cynnwys cyfres o asedau, adnoddau a chynnwys digidol. Roedd cyflwyno’r adroddiad blynyddol fel hyn hefyd yn golygu y gallem fesur ymgysylltiad yr holl asedau digidol drwy ddadansi ac adrodd ar eu heffaith.

Fe wnaethom gydlynu ffotograffiaeth a fideo ledled Cymru i adnewyddu asedau digidol Estyn. Mae’r casgliad newydd hwn o ddelweddau yn cyflwyno lluniau amrywiol a modern o addysg yng Nghymru, gan gwmpasu pob sector ar draws y wlad gyfan.

Lluniau o fyfyrwyr yng Nghymru
Lluniau o fyfyrwyr
Lluniau o ddysgwyr a lleoliadau addysgol yng Nghymru

Yn ogystal â'r adroddiad blynyddol, rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau dysgu ar y we ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhoddodd hyn strwythur i gynghorau ysgol gynnal sgyrsiau a thrafod ystyrlon, yn ogystal ag arweiniad i ysgolion ar sut i ymgysylltu â’u gweithgareddau.

Adnoddau Disgyblion i Estyn
Adnoddau Disgyblion i Estyn

Crynodeb o'r Prosiect

I grynhoi'r prosiect...

• Dylunio a chreu dogfen PDF yr Adroddiad Blynyddol.

• Cydlynu sesiynau tynnu lluniau ledled Cymru i gasglu delweddau i Estyn eu defnyddio yn eu deunyddiau.

• Creu cardiau templed cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio ar draws eu sianeli.

• Cynhyrchu fideo 5 munud i'w chwarae ar y noson, yn amlygu effaith eu hadroddiad blynyddol.

• Dylunio a chyflenwi arddangosiadau digwyddiad a baneri ar gyfer y digwyddiad lansio.

Rydym yn hynod hapus gyda'r canlyniadau a'r effaith yr ydym wedi gallu ei gyflawni rhyngom ni ac Estyn.

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Gadewch i ni siarad am eich syniadau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
hello@pobl.tech

Adroddiad Digidol am Ddim

14 Neptune Court
Vanguard Way
Caerdydd
CF24 5PJ

© Pobl Tech