fbpx

Sporttape – Gwefan a Marchnata Digidol

Sporttape Website

Mae Sporttape yn frand blaenllaw yn y DU sydd wedi’i leoli yng Nghymru gyda’r nod o gefnogi miliwn o athletwyr yr wythnos gydag arweiniad proffesiynol a thapiau y gallant ymddiried ynddynt.

Sporttape Website Homepage
Sporttape Website design
Sporttape e-commerce

Roeddent angen cymorth twf busnes ac am gynyddu safon eu gwefan WordPress a WooCommerce. Yn ogystal, oherwydd diogelwch, roedd angen cymorth technegol manwl arnynt hefyd i ail-weithio eu system pen ôl i wella sefydlogrwydd a chyflymder.

Fe wnaethom gefnogi Sporttape gyda chymysgedd o farchnata digidol, dylunio a chymorth datblygu – wedi’i deilwra o amgylch eu hamcanion.

Roedd y strategaeth farchnata ddigidol yn canolbwyntio ar optimeiddio eu strategaeth Google Ads, gan gynyddu eu cyrhaeddiad a’u dychweliad gwariant ar hysbysebion. Fe wnaethom hefyd eu cynorthwyo gyda’u strategaeth farchnata gyffredinol a’u strategaeth hysbysebion cyfryngau cymdeithasol, gan gynyddu cyrhaeddiad a gwelededd Sporttape ymhellach. Ers gweithio gyda Sporttape, rydym wedi sicrhau enillion cyson o 500% ar wariant ar hysbysebion (ROAS) – uwchlaw’r cyfartaledd safonol o 200%.

Yn gefnogaeth i’r marchnata digidol oedd y taith defnyddiwr, a wanethom wella drwy symleiddio’r broses brynnu i greu cyn lleied o gliciau â phosibl cyn gwerthu. Fe wnaethom hefyd ddiweddaru eu delweddau, eu tudalennau glanio yn ogystal â chynnwys tactegau annog uwch-werthu a gwerth basgedi mwy o faint.

Yn ogystal, gwnaethom gefnogi Sporttape gyda gwelliannau a chynnal a chadw. Roedd hyn yn cynnwys ail-weithio llawer o elfennau i gynyddu cyflymder, sefydlogrwydd a diogelwch y safle.

Oherwydd eu pecyn cymorth, mae marchnata, dylunio a datblygu parhaus yn gwella eu gwefan a’u refeniw yn barhaus.

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Gadewch i ni siarad am eich syniadau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
hello@pobl.tech

Adroddiad Digidol am Ddim

14 Neptune Court
Vanguard Way
Caerdydd
CF24 5PJ

© Pobl Tech