Mae cARTrefu, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2015, yn brosiect celfyddydol blaenllaw i Age Cymru gyda chyllid gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y prosiect yw gwella’r ddarpariaeth o weithgareddau creadigol mewn cartrefi gofal a datblygu sgiliau artist wrth redeg y sesiynau hyn.
Gofynnwyd i ni adeiladu gwefan ddwyieithog newydd, a oedd yn cynnwys fforwm. Roedd angen ymarferoldeb ar y prosiect hefyd a oedd yn caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho eitemau, gweld dogfennau PDF a gweld fideos.
Gwnaethom ddylunio ac adeiladu gwefan ar gyfer cARTrefu gan ddenfyddio hygyrchedd fel elfen ganolog. Gwnaeth y tîm dylunio yn siŵr eu bod yn defnyddio ffontiau mawr lle bo hynny’n bosibl ynghyd â dylunio llywiau a botymau clir.
Mae’r fforwm wedi’i adeiladu ar is-barth ar wahân i osgoi gorgyffwrdd â’r brif wefan. Mae’r nodwedd hon yn gwbl ddwyieithog ac yn defnyddio porthiant a rennir ar gyfer rhannu pynciau.
Adeiladwyd y wefan ei hun yn WordPress oherwydd ei hyblygrwydd ac am ei fod yn seilwaith gadarn ar gyfer y dyfodol.
Gadewch i ni siarad am eich syniadau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
hello@pobl.tech
© Pobl Tech