fbpx

Gwaith DAN 24/7

DAN 247 website applications

DAN 24/7 yw gwefan llinell gymorth cyffuriau ac alcohol Cghymru, ac yn darparu gwybodaeth a chyngor manwl am gyffuriau a sut i gael help.

Roedd angen cymorth i ddatblygu gwefan DAN 24/7 newydd i fod yn hygyrch i fwy o bobl nag y mae ar hyn o bryd, trwy fynediad rhwydd ar y wefan ei hun, gan ei gwneud hi’n haws llywio trwy’r wybodaeth a gwahanol dudalennau ar y wefan. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod y wefan ar gael ar ffôn symudol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader hefyd angen i’r wefan fod yn adnodd i weithwyr proffesiynol, gan ddarparu mynediad i fforwm ar y wefan – lle dim ond y rhai sydd â mewngofnodi fydd â mynediad iddi.

Yn ogystal â hyn, roedd angen cronfa ddata newydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddal a rheoli’r holl ddata sydd ar gael i ddefnyddwyr.

Gwnaethom ddylunio ac adeiladu gwefan newydd ar gyfer y llinell gymorth i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr lywio a dod o hyd i wybodaeth bwysig yn gyflymach. Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac wedi’i hadeiladu gyda hygyrchedd mewn golwg. Mae’r defnyddwyr ar flaen meddwl, gan ychwanegu gwerth ac ymarferoldeb a fyddai’n cynorthwyo’r rheini sydd angen mwy o gymorth wrth ddenfyddio gwefannau. Enghraifft o hyn yw’r tabiau ‘cuddio’ sydd ar gael ar ochr pob tudalen sy’n newid y sgrin yn gyflym i sgrin wahanol arall pan fo angen.

Mae’r wefan wedi’i hadeiladu i fod yn ymatebol ar bob maint sgrin, yn ogystal â bod yn gwbl amlieithog a chyfeillgar i hygyrchedd. Roedd bod yn hygyrch yn arbennig o bwysig ac mae’r dyluniad wedi’i greu yn unol â’r canllawiau hygyrchedd cynnwys gwe.

Fe wnaethom hefyd greu cronfa ddata newydd sbon a wellodd eu cronfa ddata bresennol yn ogystal â chadarnhau’r caffaeliad yn y dyfodol, gan fod BCUHB bellach yn berchen ar y gronfa ddata newydd.

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Gadewch i ni siarad am eich syniadau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
hello@pobl.tech

Adroddiad Digidol am Ddim

14 Neptune Court
Vanguard Way
Caerdydd
CF24 5PJ

© Pobl Tech